maethu yng nghonwy

cydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol

maethu yng nghonwy

Rydyn ni’n rhoi plant yn y gymuned wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.

Un o’r 22 o wasanaethau maethu’r Awdurdodau Lleol ledled Cymru: Maethu Cymru Conwy ydyn ni.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

dysgu mwy

meddwl am faethu yng nghonwy?

Family walking on the Great Orme in Llandudno
pwy all faethu?

Mae amrywiaeth yn rhywbeth mae Maethu Cymru yn falch ohono. Mae cannoedd o deuluoedd yn y gymuned yn maethu gyda ni, a gallech chithau hefyd.

dysgwch mwy
Family playing a game in their back garden
cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael yma.

dysgwch mwy

pam maethu?

Er mwyn creu dyfodol gwell i blant sy’n byw yn eich cymuned leol. Er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl a gwneud byd o wahaniaeth.

Rydyn ni’n darparu hyfforddiant arbenigol, cefnogaeth a lwfansau ariannol er mwyn i chi allu cefnogi plant lleol drwy faethu.

sut mae'n gweithio?

Mae maethu yn ymrwymiad mawr ac yn gyfrifoldeb enfawr. Bydd digon o heriau a hyd yn oed mwy o fanteision yn dod i’ch rhan – byddwch yn sylwi ar yr effaith gadarnhaol rydych chi’n ei chael bob dydd.

Man and woman holding hands standing outside their home
y broses

Datgelwch bob cam o'r broses faethu a chael gwybod beth allwch chi ei ddisgwyl pan fyddwch chi'n dod yn ofalwr maeth.

dysgwch mwy
Mum and two daughters at the Great Orme, Llandudno
cefnogaeth a manteision

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i fod y fersiwn gorau ohonoch eich hun. Mae ein tîm ymroddedig bob amser ar gael i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth, ac rydyn ni’n cynnig gwahanol fuddion i wella eich profiad o ddydd i ddydd.

dysgwch mwy

dod yn ofalwr maeth

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn ofalwr maeth yng Nghonwy? Cysylltwch â ni heddiw.

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch â ni

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.