pam maethu gyda ni?
cefnogaeth a manteision
cyllid a lwfansau
Wrth faethu gyda thîm Maethu Cymru Conwy, byddwch yn cael lwfansau ariannol hael. Mae’r lwfansau hyn yn seiliedig ar ffactorau fel y math o faethu rydych chi’n ei wneud, faint o blant rydych chi’n eu maethu, a’r cyfnod o amser.
Yng Nghonwy, mae yna ofalwyr maeth sy’n derbyn rhwng £9,200 a £28,768 y flwyddyn.
manteision eraill
Mae bod yn ofalwr maeth yng Nghonwy yn arwain at lawer o fanteision. Yn ogystal â’r lwfansau ariannol a’r gefnogaeth benodol, byddwch chi hefyd yn cael:
- Aelodaeth o CADW.
- Cerdyn Ffit
- Cerdyn Max
ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru
Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’r Ymrwymiad Cenedlaethol, sef pecyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision y mae ein holl ofalwyr maeth yn ei gael. Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch chi’n elwa o’r canlynol:

un tîm
Drwy ddod yn rhan o dîm Maethu Cymru, byddwch chi’n cysylltu â’r rheini sy’n gyfrifol am bob plentyn mewn gofal maeth yng Nghymru, a byddwch chi’n ein helpu ni i gadw plant yn eu cymuned leol.
Rydyn ni’n gweithio gyda chi, y plant rydych chi’n eu maethu, a phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â’u gofal fel un tîm mawr. Mae’r ffocws hwn ar gysylltiad yn helpu i sicrhau bod y plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw, a’u teuluoedd maeth, yn cael y dyfodol gorau posibl.

dysgu a datblygu
Mae ein pecyn cymorth sydd wedi cael ei ystyried, ei brofi a’i rannu yn un o’r manteision y mae pob aelod o Maethu Cymru yn elwa ohoni; mae dysgu a thyfu yn rhannau allweddol o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.
Rydyn ni’n darparu’r hyfforddiant proffesiynol a’r gwaith paratoi sydd eu hangen arnoch i ddatblygu’n ofalwr maeth hyderus a medrus ac i allu diwallu anghenion y plant yn eich gofal.
Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch yn cael cofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu i gofnodi’r cynnydd rydych chi’n ei wneud a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith ar gyfer y dyfodol.

cefnogaeth
Gyda Maethu Cymru, gallwch bob amser ddibynnu ar rywun i’ch cefnogi a’ch annog ar bob cam o’ch taith. Rydyn ni ar gael bob awr o’r dydd.
Bydd gennych chi weithiwr cymdeithasol profiadol a phroffesiynol wrth law i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan.
Bydd gennych chi hefyd fynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi, lle byddwch chi’n dod i adnabod gofalwyr maeth eraill. Bydd hyn yn gyfle i chi siarad, gwrando a rhannu eich straeon. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael gan bob tîm Maethu Cymru lleol, a gall helpu i wella eich lles.
Mae cefnogaeth broffesiynol ar gael yn rhwydd hefyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n gofalwyr maeth, sy’n golygu ein bod ni bob amser ar gael. Pa bynnag ddiwrnod yw hi neu faint bynnag o’r gloch yw hi.
Byddwch yn dod o hyd i gymunedau newydd yma, gan gynnwys grwpiau cefnogi i ddynion sy’n maethu ac i fathau arbenigol o ofalwyr maeth.

y gymuned faethu
Mae cadw mewn cysylltiad yn rhywbeth rydyn ni’n canolbwyntio arno. Bydd y gymuned faethu yn dod â chi’n nes at deuluoedd maeth eraill, gan eich helpu i wneud ffrindiau newydd, i gael profiadau newydd ac i greu atgofion newydd.
Hefyd, byddwch chi’n gallu cael mynediad at lawer o wybodaeth a chyngor ar-lein, felly fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun.
Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn yn talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru, er mwyn i chi gael mynediad at gefnogaeth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a manteision eraill. Dyna pa mor bwysig ydych chi i ni.

llunio’r dyfodol
Mae o ble rydyn ni wedi dod yn bwysig, ond rydyn ni’n canolbwyntio ar lunio’r dyfodol i blant. Mae creu bywyd gwell i blentyn wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud.
Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch yn cael eich annog i leisio eich barn. Bydd eich barn yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n symud ymlaen gyda sut rydyn ni’n gweithredu yng Nghonwy, ond bydd pobl yn gwrando ar eich barn ledled y wlad hefyd. Bydd cyfleoedd i chi ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru.