Archif Cwestiynau Cyffredin - maethu cymru conwy https://conwy.fosterwales.gov.wales Wed, 14 Jul 2021 09:52:01 +0000 cy hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.0 beth yw maethu? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/beth-yw-maethu/ Tue, 22 Jun 2021 15:45:50 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=441 beth yw maethu? Mae maethu yn golygu derbyn plentyn yn rhan o’ch teulu pan fydd...

The post beth yw maethu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
beth yw maethu?

Mae maethu yn golygu derbyn plentyn yn rhan o’ch teulu pan fydd yn rhaid iddo fod i ffwrdd oddi wrth ei deulu ei hun. Gallai hynny fod am noson, mis, blwyddyn neu sawl blwyddyn. Mae ymroddiad i wneud gwahaniaeth wrth galon unrhyw leoliad maeth – er mwyn newid cwrs bywyd plentyn.

Mae gofalwyr maeth yn golygu dechrau o’r newydd a theulu newydd, ond dydy hyn ddim yn golygu dileu’r gorffennol – mae’r cysylltiadau pwysig sydd gan blant maeth â’u teuluoedd biolegol yn cael eu cynnal hefyd. 

Mae gwarchod cyfeillgarwch, lleoedd cyfarwydd a phopeth sy’n bwysig i’r plentyn yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Dyna pam y byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i leoli plant yn eu cymuned leol, os mai dyna’r peth iawn iddyn nhw. 

Fel gofalwr maeth lleol, mae gennych rôl bwysig: gwneud yn siŵr bod y plentyn yn teimlo’n ddiogel, yn hapus ac yn cael cefnogaeth. Ein rôl ni yw eich cefnogi chi, ym mhob ffordd y gallwn ni.

y teulu maeth nodweddiadol… dydy o ddim yn bodoli

Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth a natur unigryw ein teuluoedd maeth. Does dim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol – y gwir amdani yw, mae maethu’n ymwneud â diwallu anghenion unigol pob plentyn yn ein gofal. Mae angen rhywbeth gwahanol ar bob plentyn. Dyna pam, os byddwch chi’n penderfynu bod yn ofalwr maeth, does dim modd cymharu eich amgylchiadau chi â sefyllfa unrhyw un arall. Eich stori chi yw’r peth pwysicaf. 

Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o faethu.

The post beth yw maethu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/beth-ywr-gwahaniaeth-rhwng-maethu-a-mabwysiadu/ Tue, 22 Jun 2021 15:48:51 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=442 beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu? Efallai bod gofal maeth a mabwysiadu yn wahanol...

The post beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu?

Efallai bod gofal maeth a mabwysiadu yn wahanol yn y bôn, ond maen nhw’n rhannu rhai gwerthoedd cyffredin. Caredigrwydd. Tosturi. Sefydlogrwydd. Hafan ddiogel, pan fydd ei hangen fwyaf. 

y diffiniad cyfreithiol

Mae’r ffordd y mae maethu a mabwysiadu yn wahanol yn gliriach fyth pan fyddwch yn edrych ar y diffiniad cyfreithiol. Gyda mabwysiadu, rydych yn dod yn rhiant cyfreithiol i’r plentyn hwnnw. Mae gennych gyfrifoldeb llawn dros y plentyn, mae’n cymryd eich enw, mae’n rhan gyfreithiol o’ch teulu.

Gyda maethu, cyfrifoldeb cyfreithiol yr Awdurdod Lleol yw’r plentyn o hyd ac rydych chi’n gweithio gyda’ch gilydd, weithiau gyda’i deulu biolegol hefyd. Rydych chi, fel gofalwr maeth, yn gofalu am y plentyn hwnnw ac yn ei fagu ar sail tymor byr, tymor canolig neu dymor hir.

The post beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
beth yw rôl gofalwr maeth? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/beth-yw-rol-gofalwr-maeth/ Tue, 22 Jun 2021 15:49:25 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=443 beth yw rôl gofalwr maeth? Rydych chi’n rhan o dîm fel gofalwr maeth. Allwn ni...

The post beth yw rôl gofalwr maeth? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
beth yw rôl gofalwr maeth?

Rydych chi’n rhan o dîm fel gofalwr maeth. Allwn ni ddim gwneud yr hyn sydd orau i blant lleol heb ofalwyr maeth, a’r gwir yw, mae rôl pob gofalwr yn unigryw. 

Mae’n ymwneud â thosturi a gofal bob dydd, cyhyd ag y bo’r plentyn gyda chi. Mae’r plentyn angen rhywun i wrando arno. Rhywun i gredu ynddo. Chi, y gofalwr maeth, yw’r person hwnnw.

o ddydd i ddydd

Yn syml iawn, rôl gofalwr maeth yw bod yno. Bod yn gyson ac yn ddibynadwy. Mae’n rhywbeth sy’n dod yn ail natur – gyda thîm o’ch cwmpas, gyda chefnogaeth a hyfforddiant, chi yw’r un sydd yno. Yr un sy’n gofalu. Gallai hynny fod am ddiwrnod, mis neu fwy. Ac er bod pob teulu maeth yn dechrau yn yr un ffordd, bydd yr atgofion rydych chi’n eu creu yn unigryw i chi.

The post beth yw rôl gofalwr maeth? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
faint o amser mae’n ei gymryd i ddod yn ofalwr maeth? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/faint-o-amser-maen-ei-gymryd-i-ddod-yn-ofalwr-maeth/ Tue, 22 Jun 2021 15:49:50 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=444 faint o amser mae’n ei gymryd i ddod yn ofalwr maeth? Mae taith pawb yn...

The post faint o amser mae’n ei gymryd i ddod yn ofalwr maeth? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
faint o amser mae’n ei gymryd i ddod yn ofalwr maeth?

Mae taith pawb yn wahanol. Mae maethu yn benderfyniad i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant yn eich cymuned. Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i chi gyrraedd yno, ond y cam cyntaf yw’r un pwysicaf.

beth alla’ i ei ddisgwyl?

O’n sgwrs gyntaf i gael eich cymeradwyo, gall y broses o ddod yn ofalwr maeth gymryd hyd at chwe mis. Byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd.

Byddwn yn dod i’ch adnabod chi a’ch teulu. Yn darganfod beth rydych chi’n teimlo’n angerddol yn ei gylch, ac yn bwysicaf oll, pwy ydych chi. Nid dim ond eich cartref chi a’ch cymuned sy’n bwysig i ni. Rydych chi, fel unigolyn, yn bwysig i ni. Rydyn ni’n gweithio i’ch paru chi â phlant maeth a fydd yn ffitio i mewn â’ch teulu a’ch ffordd o fyw. Er mwyn paru yn y ffordd orau – a chreu’r dyfodol gorau posibl – mae angen i ni wybod popeth a allwn ni.

The post faint o amser mae’n ei gymryd i ddod yn ofalwr maeth? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
sut mae dod yn ofalwr maeth? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/sut-mae-dod-yn-ofalwr-maeth/ Tue, 22 Jun 2021 15:50:33 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=445 sut mae dod yn ofalwr maeth? Mae’r cyfan yn dechrau gyda hyn. Neges. E-bost. Galwad...

The post sut mae dod yn ofalwr maeth? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
sut mae dod yn ofalwr maeth?

Mae’r cyfan yn dechrau gyda hyn. Neges. E-bost. Galwad ffôn. 

Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu’r Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Dydyn ni ddim yn sefydliad pell i ffwrdd heb ddealltwriaeth o’ch byd. Rydyn ni’n griw o arbenigwyr ymroddedig o’ch cymuned chi. Felly, os ydych chi’n gofyn sut mae dod yn ofalwr maeth, mae’r ateb yn syml. Cysylltwch â’ch tîm Maethu Cymru lleol a byddwn yn eich arwain bob cam o’r ffordd.

y camau nesaf

Pan fyddwch chi wedi cymryd y cam cyntaf pwysig hwnnw, byddwn yn eich tywys drwy weddill y broses. Ar y dechrau, mae’n ymwneud â dod i’ch adnabod chi.

The post sut mae dod yn ofalwr maeth? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
pwy sydd angen ei faethu? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/pwy-sydd-angen-ei-faethu/ Tue, 22 Jun 2021 15:51:46 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=446 pwy sydd angen ei faethu? Does dim y fath beth â phlentyn maeth nodweddiadol. Does...

The post pwy sydd angen ei faethu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
pwy sydd angen ei faethu?

Does dim y fath beth â phlentyn maeth nodweddiadol. Does dim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol, chwaith.

Mae gan bob plentyn yn ein gofal ei frwdfrydedd a’i bersonoliaeth ei hun. Mae’r plant wedi dod o wahanol amgylchiadau unigryw, sydd wedi dylanwadu ar eu bywydau hyd yma. Rydyn ni yma i wneud yn siŵr bod eu dyfodol yn wahanol. Yn well.

ein plant maeth

O fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau, o frodyr a chwiorydd i famau a thadau ifanc, mae yna blant ar hyd a lled Cymru sydd angen y cyfle hwnnw ar hyn o bryd. Y cyfle hwnnw i gamu ar lwybr newydd. Dyna lle gall gofalwyr maeth helpu.

Mae pob teulu maeth yn wahanol. Mae rhai yn croesawu brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd, eraill yn gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, ac mae rhai rhieni maeth yn arbenigo mewn gofalu am blant sydd ag anghenion unigryw hefyd. Mae pob math o blant angen gofal maeth. Ein rôl ni yw cefnogi pob un ohonyn nhw. Dod o hyd i deulu sy’n addas iddyn nhw.

brodyr a chwiorydd

Rydyn ni’n credu mewn aros yn lleol, ac aros gyda’n gilydd. Mae cynnal cysylltiadau rhwng brodyr a chwiorydd yn bwysig i blant, felly mae’n bwysig i ninnau hefyd. Dyna pam mae paru brodyr a chwiorydd â theulu maeth, gyda’i gilydd, yn flaenoriaeth. Mae creu dyfodol gwell yn aml yn golygu manteisio i’r eithaf ar y cysylltiadau pwysig sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â datblygu rhai newydd.

pobl ifanc yn eu harddegau

Mae gofalu am blentyn yn ei arddegau yn golygu gwrando, deall, helpu i wneud synnwyr o’r byd – a’i le ynddo. Mae’n ymwneud â darparu sefydlogrwydd a sicrwydd, o blentyndod ac ymlaen i fywyd fel oedolyn.

The post pwy sydd angen ei faethu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
sut beth yw maethu? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/sut-beth-yw-maethu/ Tue, 22 Jun 2021 15:54:21 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=447 sut beth yw maethu? Mae maethu yn ymrwymiad, a does dim byd arall tebyg iddo....

The post sut beth yw maethu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
sut beth yw maethu?

Mae maethu yn ymrwymiad, a does dim byd arall tebyg iddo. Bydd yna adegau i’w trysori. Adegau pan allwch chi wir weld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud. Os bydd adegau anodd hefyd, byddwn ni’n eich cefnogi chi ac yn eich tywys drwy’r broses. 

Gallai fod am un noson, am bythefnos, neu am fwy o amser. Ond bydd maethu yn eich synnu. Bydd yn eich herio. Bydd yn werth chweil i chi.

Gwybodaeth am sut beth yw maethu: darllenwch ein llwyddiannau maethu.

The post sut beth yw maethu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
pwy sy’n penderfynu pa blant rwy’n eu maethu? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/pwy-syn-penderfynu-pa-blant-rwyn-eu-maethu/ Tue, 22 Jun 2021 15:54:44 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=448 pwy sy’n penderfynu pa blant rwy’n eu maethu? Rydych chi’n unigryw, gyda’ch sgiliau a’ch cryfderau...

The post pwy sy’n penderfynu pa blant rwy’n eu maethu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
pwy sy’n penderfynu pa blant rwy’n eu maethu?

Rydych chi’n unigryw, gyda’ch sgiliau a’ch cryfderau eich hun, ac mae’r ffordd y bydd eich teulu maeth yn edrych yn unigryw hefyd.

paru – sut mae’n gweithio

Rydyn ni’n gweithio gyda chi i baru plant â’r cartref iawn. 

Mae’n golygu gwrando arnoch chi, dod i’ch adnabod, dod i adnabod eich teulu, eich bywyd, eich cartref. Gallwn wedyn eich paru chi â’r plentyn maeth sy’n cyd-fynd orau â’ch sgiliau a’ch amgylchiadau.

Mae paru yn y ffordd orau yn bwysig i ni. Ac mae’r rheswm am hynny’n syml: mae gwell paru’n golygu gwell canlyniadau. 

The post pwy sy’n penderfynu pa blant rwy’n eu maethu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
pa hyfforddiant fydda i’n ei gael? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/pa-hyfforddiant-fydda-in-ei-gael/ Tue, 22 Jun 2021 15:56:20 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=449 pa hyfforddiant fydda i’n ei gael? Mae’r hanfodion gennych chi i fod yn ofalwr maeth...

The post pa hyfforddiant fydda i’n ei gael? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
pa hyfforddiant fydda i’n ei gael?

Mae’r hanfodion gennych chi i fod yn ofalwr maeth gwych, dim ond drwy feddwl am y peth. Tosturi. Ymroddiad. Chwilfrydedd.

Rydyn ni’n cymryd amser ac yn cynnig yr arbenigedd i’ch helpu i ddatblygu’r hanfodion hynny, er mwyn i chi gael yr holl adnoddau y bydd eu hangen arnoch. 

beth fyddwch chi’n ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, y rheolau sy’n helpu i lywio’r hyn rydyn ni’n ei wneud, a sut i fod y gorau y gallwch chi fod. Fyddwch chi byth yn teimlo’n segur rhwng y cyrsiau hyfforddi a’r cymwysterau.

pryd fyddwch chi’n dysgu

Rydyn ni’n hyblyg, ac mae hynny’n cynnwys ein fframwaith dysgu a datblygu. Byddwch yn cael cyfleoedd dysgu amrywiol ar adegau sy’n addas i chi. Dim rhoi tic yn y blwch sy’n bwysig, ond tyfu bob dydd. Mae rhai sgiliau’n gyffredinol, rhai yn fwy addas ar gyfer plentyn penodol. Byddwn yn rhoi pa bynnag hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch, pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch.

The post pa hyfforddiant fydda i’n ei gael? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
fydda i’n cael fy nhalu fel gofalwr maeth? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/fydda-in-cael-fy-nhalu-fel-gofalwr-maeth/ Tue, 22 Jun 2021 15:56:48 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=450 fydda i’n cael fy nhalu fel gofalwr maeth? Efallai nad lwfansau yw’r peth cyntaf y...

The post fydda i’n cael fy nhalu fel gofalwr maeth? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
fydda i’n cael fy nhalu fel gofalwr maeth?

Efallai nad lwfansau yw’r peth cyntaf y byddwch chi’n eu hystyried gyda maethu. Ond maen nhw’n rhan o sut rydyn ni’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu cynnig y gefnogaeth orau bosibl fel gofalwr maeth.

lwfansau

Byddwch yn cael lwfans ar gyfer pob plentyn maeth yn eich gofal, a byddwch yn cael lwfans fel rhiant maeth hefyd. Mae’n ymwneud â gofalu am bethau bob dydd, yn ogystal â helpu i greu mwy o atgofion arbennig. 

cefnogaeth arall

Mae manteision eraill, ar wahân i gymorth ariannol, a fydd yn cyfoethogi eich profiad maethu. Rydyn ni’n edrych ar y darlun llawn: cefnogaeth emosiynol, cyfleoedd dysgu ac arweiniad arbenigol hefyd.

Dim ein hamser a’n harbenigedd yn unig rydyn ni’n eu cynnig. Fel mudiad dielw, mae ein holl arian yn mynd tuag at gefnogi’r plant yn ein gofal a gwneud y profiad maethu y gorau y gall fod. Mae hynny’n golygu cefnogaeth cylch cyfan. Rydyn ni yma i chi, ym mha bynnag ffordd rydych chi ein hangen ni.

Tarwch olwg ar ein gefnogaeth a manteision i weld beth yn union y gallai maethu gyda Maethu Cymru ei olygu i chi.

The post fydda i’n cael fy nhalu fel gofalwr maeth? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
sut bydd fy newis i faethu yn effeithio ar fy nheulu? https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cwestiynau-cyffredin/sut-bydd-fy-newis-i-faethu-yn-effeithio-ar-fy-nheulu/ Tue, 22 Jun 2021 15:57:25 +0000 https://foswalesstage.wpengine.com/?post_type=common_questions&p=451 sut bydd fy newis i faethu yn effeithio ar fy nheulu? Mae dod yn rhiant...

The post sut bydd fy newis i faethu yn effeithio ar fy nheulu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>
sut bydd fy newis i faethu yn effeithio ar fy nheulu?

Mae dod yn rhiant maeth yn ddewis rydych chi’n ei wneud gyda’ch anwyliaid. Mae’n ymwneud â thyfu eich uned deuluol drwy groesawu plant i’ch cartref. Eu cefnogi nhw. Gofalu amdanyn nhw. Mae eich teulu’n cael eu cynnwys ym mhob cam ac yn cael cynnig y gefnogaeth a’r gofal hwn hefyd. Oherwydd mae maethu yn ymwneud â chysylltiad a chymuned. Dim rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun yw maethu – rydych chi’n dîm, a byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd.  Mae’r gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r manteision rydyn ni’n eu cynnig yn cael eu cynnig i bob aelod o’ch aelwyd hefyd.

plant sy’n maethu

Mae llawer o deuluoedd maeth yn cynnwys oedolion a phlant, sy’n dysgu ac yn tyfu o gael brodyr a chwiorydd maeth. Mae’n ymwneud â dysgu sut i fod yno i’n gilydd. Sut i wrando. Sut i ofalu.

The post sut bydd fy newis i faethu yn effeithio ar fy nheulu? appeared first on maethu cymru conwy.

]]>