Blog

Dynion sy'n Gofalu

Dynion yn sefyll

rôl hanfodol dynion mewn gofal maeth

Yn y gorffennol, yn economaidd ac yn gymdeithasol, dynion yw'r gweithwyr a'r merched sy'n darparu gofal plant. Mae Maethu Cymru Conwy am hyrwyddo ein 'Dynion Sy'n Gofalu' a chwalu camsyniadau am ofalwyr maeth.

Ers amser maith, mae gofal plant a maethu wedi cael ei ystyried yn waith i ferched. Wrth i gymdeithas esblygu a rolau'r rhywiau newid yn sylweddol, teimlir yn aml fod tybiaeth o hyd mai merched ddylai ymgymryd â rôl 'rhiant'. Hyd yn oed yn yr achosion pan fo dynion yn Ofalwyr Maeth ar y cyd â'u partneriaid, maent yn adrodd eu bod yn teimlo fel pe baent yn cael eu hanwybyddu braidd yn y broses neu'n teimlo ar yr ymylon mewn digwyddiadau a hyfforddiant, y maent yn teimlo y gall fod wedi'u hanelu at ferched. Maent yn teimlo eu bod yn cael eu hystyried fel y gofalwr maeth eilaidd, a'r prif un sy'n rhoi gofal yw'r fenyw yn y berthynas.

Mae Liam, Andrew a Chris, yn rhannu eu rhesymau a'u profiadau o ddod yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Conwy.


Mae bob amser wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi ystyried ei wneud. Wrth i mi fynd yn hŷn a bywyd yn cyrraedd y lle iawn dechreuais feddwl am y peth eto. Felly, dechreuais weld beth oedd ein hopsiynau a'r peth nesaf, fe ddechreuon ni faethu. Mae wastad wedi bod yn rhywbeth rwyf wedi bod eisiau ei wneud!

Liam

Dechreuais edrych i mewn i faethu oherwydd bod gan fy merch ffrind a oedd yng ngofal yr awdurdod lleol. Roeddwn ychydig yn chwilfrydig ynghylch yr hyn yr oedd yn rhaid i chi ei wneud i ddod yn ofalwr maeth. Fe wnaethom gyflwyno ein cais i faethu gyda Maethu Cymru Conwy, ac mae'r gweddill yn hanes mewn gwirionedd. Rydym ni wedi bod yn ofalwyr maeth ers 10 mlynedd rŵan.

Andrew
Mae ymchwil (unrhyw ddolenni allanol â thystiolaeth ymchwil – e.e. Y Rhwydwaith Maethu?) yn dangos bod dynion sy'n dymuno maethu wedi rhannu ymatebion gan ffrindiau a theulu nad ydynt yn cydnabod nac yn deall y rheswm pam y byddent am ddod yn ofalwr maeth. Gallai hyn fod oherwydd nad ydynt yn cydnabod yr effaith y gall ei chael neu nad ydynt yn derbyn y manteision pe bai dyn yn buddsoddi'n emosiynol yn lles plentyn neu unigolyn ifanc sydd yng ngofal eu hawdurdod lleol. Mae miloedd o ddynion yn ofalwyr maeth ledled y DU, naill ai fel rhan o gwpl neu fel gofalwr sengl. Ac eto, mae llawer o ddynion yn cael eu hatal rhag dod yn ofalwyr maeth, ac yn aml ystyrir nad yw dynion eisiau gweithio gyda phlant.  

Rhowch gyfle i faethu. Bu i mi ddod i faethu gydag ychydig iawn o wybodaeth a nawr mae gen i wybodaeth A i Y ar pam rwy'n dewis maethu a pham y byddaf yn parhau i faethu. Mae'n braf gweld y plant yn gwenu ac yn chwerthin. Efallai eu bod nhw wedi bod mewn lle drwg ac mae gweld gwên neu eu gweld yn chwerthin yn beth mawr i ni, mae'n deimlad gwych!

Andrew

cymuned o unigolion gofalgar

Mae Maethu Cymru Conwy am hyrwyddo rôl dynion yn y system Gofal Maeth fel rhywbeth hanfodol. Mae llwyddiant gwasanaeth gofal maeth yn dibynnu ar gymuned o unigolion hanfodol, beth bynnag fo'u rhyw. Er y gall weithiau deimlo ei fod yn cael ei anwybyddu, mae arwyddocâd cael dyn gofalgar, gonest, dibynadwy ym mywyd plentyn neu unigolyn ifanc yn amhrisiadwy.

Rydych chi yno i fod yn fodel rôl gadarnhaol iddynt.

Liam

Petaech chi'n gofyn iddynt, nid oes llawer o blant a phobl ifanc yn deall ein rôl fel y prif ofalwr ac ni fyddent yn gwybod beth oeddech chi'n ei olygu. Rydych chi'n mynd â nhw i'r ysgol, eu nôl o'r ysgol ac yna pan fyddwch chi gartref nid ydynt yn gweld y gwahaniaeth nac yn deall y rôl.

Andrew

I lawer o blant mewn gofal, byw gyda gofalwr maeth gwrywaidd fydd eu profiad cadarnhaol cyntaf o oedolyn gwrywaidd, gan roi'r cyfle iddynt ffurfio perthnasoedd o ymddiriedaeth a chael cysylltiad â dynion sy'n deall eu hanghenion.

Roedden ni'n gofalu am blentyn 4 a 6 oed am benwythnos y mis, am dros 3 blynedd. Dychwelodd y plant at y teulu biolegol, a doedd dim angen ni mwyach. Ar y dechrau, roedd yn ein gwneud yn drist wrth feddwl efallai na fyddwn yn eu gweld eto. Ond yna rydych chi'n meddwl 'na, rydym ni wedi gwneud ein gwaith nawr mewn gwirionedd'. A dyna yw ei hanfod, rhoi'r cyfle hwnnw iddynt.

Chris

Eu gwylio'n cyflawni nodau maent wedi eu gosod. Mae gwybod eich bod wedi gallu cynorthwyo yn y ffordd leiaf, neu fwyaf posibl, yn gymaint o foddhad.

Liam

modelau rôl cadarnhaol

Mae Maethu Cymru Conwy yn agored i recriwtio pob unigolyn. Beth bynnag fo'u rhyw, oedran, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, hil neu gredoau crefyddol. Mae Maethu Cymru Conwy yn galw am unrhyw unigolyn (neu bartneriaeth) sy'n teimlo'n ysgogol ac ymroddedig i wneud gwahaniaeth i fywyd, lles a rhagolygon plentyn neu unigolyn ifanc yn y dyfodol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Wrth i nifer y plant sydd angen cartref maeth gynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'n bwysig ein bod yn gallu eu cefnogi i ddod o hyd i gartref sefydlog a diogel am faint bynnag o amser y mae ei angen arnynt. P'un a ydynt yn cael eu croesawu i gartref gofalwr maeth gwrywaidd sengl, pâr priod, pâr sy'n cyd-fyw; mae modelau rôl gofal cadarnhaol yn allweddol i blentyn ac unigolyn ifanc.

Buaswn i'n dweud wrthych chi holi. Peidiwch â bod ofn gwneud hynny, nid yw'n eich digaloni nac yn frawychus. Mae maethu yn hwyl, ac rydych yn dysgu llawer amdanoch chi'ch hun hefyd.

Liam

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth gyda'ch awdurdod lleol yng Nghonwy, cysylltwch â'ch tîm Maethu Cymru Conwy ar 01493 576 350 neu ewch i https://maethucymru.secure.conwy.gov.uk

cysylltwch

cysylltwch heddiw

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Resize Font
Contrast mode