eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Mae Maethu Cymru Conwy yn rhoi pobl yn gyntaf – bob amser. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi a grymuso gofalwyr maeth, er mwyn iddyn nhw allu rhoi’r gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar blant lleol.
Ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, rydych chi eisoes yn rhan o Maethu Cymru.
Os nad ydych chi’n maethu gyda Maethu Cymru Conwy, gallwch drosglwyddo o’ch asiantaeth faethu gyfredol. Dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod am y broses syml hon.

sut i drosglwyddo aton ni
Cysylltwch â’ch tîm lleol. Os byddwch chi’n penderfynu mai trosglwyddo i Maethu Cymru Conwy yw’r peth iawn i chi, byddwn ni’n eich cefnogi chi i wneud hynny.

pam trosglwyddo
Yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am bob plentyn mewn gofal, felly ein pwrpas ni yw pennu a darparu’n union beth sydd ei angen ar gyfer plant lleol a’u teuluoedd maeth.
Rydyn ni’n cefnogi eich twf drwy gynnig hyfforddiant a chymorth proffesiynol pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Rydyn ni’n ceisio darparu’r gorau i’r plant yn ein gofal, ac i’n gofalwyr maeth hefyd.
Hoffech chi symud i Maeth Cymru Conwy? Dewch i gael gwybod am y rydyn ni’n eu cynnig.