Mae’r partneriaid hirdymor Michael a Gemma yn gofalu am ddau blentyn maeth yn ardal Conwy yng Ngogledd Cymru.
y teulu maeth
Ystyriodd Michael a Gemma yr holl opsiynau oedd ar gael iddyn nhw gyda chymorth ein tîm ymroddedig. Maen nhw bellach wedi bod yn rhoi cartref maeth hapus ers dros 5 mlynedd.
“Tua 10 mlynedd yn ôl fe wnaethon ni geisio dechrau teulu ond fe wnaethon ni ddarganfod nad oedden ni’n gallu cael plant ein hunain.”
Gyda chymuned gref o’u cwmpas, teimlai’r cwpl eu bod yn gwneud eu rhan dros yr ardal yn ogystal â gwireddu eu breuddwydion.
“Fe wnaethon ni ddewis maethu drwy dîm maethu awdurdod lleol Conwy. Mae cymuned yn beth mor fawr yng Nghonwy, felly roedd yn bwysig i ni y bydden ni’n parhau i gefnogi ein cymuned a helpu teuluoedd sy’n byw o’n cwmpas.”
“maethu oedd y peth iawn i ni””
Gofalu am blant oedd y bwriad bob amser i Michael a Gemma, ond doedden nhw ddim yn hollol siŵr o sut bydden nhw’n gwneud hynny. Nawr, mae’n debyg mai dyma oedd y ffordd roedd ffawd erioed wedi’i fwriadu.
“Fe wnaethon ni siarad am yr opsiynau oedd gennym ni a meddwl am beth fyddai orau i ni.
Buom yn ymchwilio i bopeth am fabwysiadu a maethu, ac ar ôl pwyso a mesur ein hopsiynau, penderfynwyd mai maethu oedd y peth iawn i ni.”
“rydyn ni’n rhoi ymdeimlad o berthyn iddyn nhw”
I’r ddau hyn, y nod bob amser oedd cynnig lle diogel i blant ddod yn fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain. I chwerthin, i ddysgu, i garu. Mae gofalu am y chwiorydd Anna a Cerys wedi’u galluogi i wneud hynny i’r dim.
“Tua thair blynedd yn ôl erbyn hyn, fe ddechreuon ni ofalu am y chwiorydd, Anna a Cerys, a oedd yn bump ac yn saith oed ar y pryd. Roedd eu mam yn mynd trwy gyfnod anodd iawn. Doedd y merched ddim yn profi unrhyw drais – dim byd fel ‘na – ond doedden nhw ddim yn cael y gofal a’r sylw roedd eu hangen arnyn nhw.”
“Y peth mwyaf rydyn ni wedi’i roi i’r plant hyn yw ymdeimlad o berthyn. Rydyn ni wedi rhoi cariad a chefnogaeth gyson iddyn nhw nad ydyn nhw wedi’u cael o’r blaen.”
am ddechraueich taith faethu eich hun?
Mae stori Michael a Gemma yn galonogol. Mae’n enghraifft dda o’r gwaith gwych y gallwn ei wneud gyda’n gilydd. Yn bwysicach byth, mae’n dangos yr hyn y gallwch fod yn rhan ohono hefyd. I ddechrau eich stori gofal maeth, siaradwch â ni:
am ddysgu mwy?
Dysgwch fwy am faethu a beth y gallai ei olygu i chi.
Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddyn nhw, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.