Blog

manteision cael anifeiliaid anwes mewn cartref maeth

Mae Maethu Cymru Conwy yn cydnabod bod anifeiliaid anwes mewn cartref maethu yn cynnig llawer o fanteision. Ym Mis Cenedlaethol Anifeiliaid Anwes, mae Maethu CYmru Conwy yn edrych ar sut mae anifeiliaid anwes o fudd i gartref maethu. Boed yn flewog neu’n gennog hyd yn oed, mae astudiaethau’n dangos bod cyswllt gydag anifeiliaid yn cynnig buddion sylweddol ar gyfer y meddwl. I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Anifeiliaid Anwes, rydym yn archwilio sut mae ffurf flewog ar therapi’n helpu’r plant a phobl ifanc yr ydym yn gofalu amdanynt.

Nid yw cael anifeiliaid anwes yn eich atal rhag gwneud cais i fod yn ofalwr maeth. Mewn gwirionedd, gallant fod o fudd mawr i gartref maeth. Mae gan lawer o deuluoedd maeth ystod eang o anifeiliaid anwes, o gathod neu gŵn, i ieir, cwningod, a nadroedd hyd yn oed.

Rydym yn cydnabod bod pob anifail yn unigryw ac yn wahanol yn eu ffordd eu hunain, a bydd eich anifail anwes yn cael ei ystyried fel rhan o’ch siwrnai maeth. Bydd eich anifail anwes yn cymryd rhan yn eu ‘Holiadur Anifail Anwes’ eu hunain, sy’n edrych ar eu natur a’u hymddygiad. Mae’n hanfodol meddwl am sut y byddai eich anifail anwes yn teimlo cael rhywun newydd yn ymuno â’ch cartref hefyd.

beth yw manteision anifeiliaid anwes mewn cartref maethu?

Mae sawl mantais o gael anifeiliaid anwes o fewn teulu maeth. Gall anifeiliaid anwes; cathod a chŵn yn benodol gael buddion therapiwtig anhygoel ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac ymddygiadol cymhleth, a gallant annog datblygiad cyfathrebiad di-eiriau.

Mae astudiaethau’n dangos bod anifeiliaid yn gallu helpu plant i lywio drwy heriau setlo i gartref maeth newydd, drwy eu darparu gyda theimladau o ddiogelwch a diogeledd. Mae bond anifail wedi profi ei fod yn cefnogi lles seicolegol ar draws ystod o blant a phobl ifanc, gan gynnwys y sawl ag anableddau.

Fostering secure attachment: experiences of animal companions in the foster home

Rhannodd Heather bod ei chath, Jac, a’r plentyn y mae hi’n gofalu amdano

wir yn ffrindiau gorau

Mae’r plentyn y mae Heather yn gofalu amdano’n caru rhannu teganau a gemau gyda Jac, ac yn cael ei ddiddori pan mae Jac yn dringo’r llenni, neu’n mynd yn sownd yn y goeden Nadolig.

mae maethu cymru conwy hefyd yn cynnwys ieir anwes mewn cartref maethu

Mae anifeiliaid anwes yn wych ar gyfer torri’r ias, yn enwedig ar gyfer plant sydd â diffyg ymddiriedaeth mewn oedolion. Drwy weld oedolyn yn gofalu am anifail anwes, mae hyn yn galluogi’r plentyn i asesu a yw oedolyn sy’n darparu’r gofal i’r anifail yn gallu cal ei ymddiried.

Rhannodd ein gofalwr maeth, Gwen, stori am pan ddaeth plentyn i aros gyda nhw am gyfnod byr o amser oherwydd argyfwng, ei fod wedi cael ei swyno gan eu hieir.

“Byddai wrth ei bodd yn eu bwydo, yn rhoi dŵr iddynt ac yn chwilio am wyau.”

Mae Gwen yn siarad am sut y mae plant sy’n dod i fyw gyda nhw wrth eu boddau’n gofalu am yr ieir a’u mwytho –

“Rydw i’n meddwl eu bod yn greaduriaid tawel, ac yn helpu i dawelu’r plant”. 

Mae Gwen yn cael gwybod gan ofalwyr maeth y plentyn ei fod yn parhau i siarad am yr ieir, blynyddoedd yn ddiweddarach.

Dros amser, efallai bydd y plentyn yn datblygu teimladau cadarnhaol tuag at yr anifeiliaid anwes yn y cartref, neu os ydynt yn cael eu hanifail anwes eu hunain, a gall hyn helpu i gyfrannu at hunanhyder a hunan-barch y plentyn. Gall anifeiliaid anwes ddysgu gwersi pwysig a gwerthfawr i blant, megis trugaredd, amynedd, cyfrifoldeb, parch, empathi ac ymddiriedaeth. Pan mae plentyn yn cael ei gynnwys yng ngofal anifail anwes, gallant ddysgu sut i garu, meithrin a gofal am greadur arall. Yn ogystal â dysgu am gysondeb ac ymrwymiad i’r anifail anwes.

Gall rhan o’ch siwrnai maethu gynnwys cefnogi plentyn i symud ymlaen o’ch gofal. Rydym wedi clywed sut mae anifeiliaid anwes yn gallu cefnogi ein teuluoedd maeth drwy’r broses anodd hon. Mae ein gofalwr maeth, Gwen, yn dweud wrthym sut mae ei chi Pegi wedi helpu’r teulu drwy “deimlad o golled, tristwch a galar”.

Mae llawer o fanteision i anifeiliaid anwes mewn cartref maethu. Os oes gennych anifail anwes y teimlwch y byddai’n gaffaeliad gwych i gartref maethu, beth am siarad ag un o’n tîm, Cysylltu â ni.

cysylltwch

cysylltwch heddiw

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Resize Font
Contrast mode