ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Mae gofal maeth yn gallu golygu unrhyw beth o aros dros nos i rywbeth mwy hirdymor. Er bod yr amser yn amrywio o un teulu i’r llall, mae un elfen bob tro yr un fath: mae pob arhosiad yn darparu lle diogel.

Mae gofal maeth yn gallu golygu unrhyw beth o aros dros nos i aros am flwyddyn – gall hyd yr amser amrywio! Fodd bynnag, mae gan bob math o ofal maeth yr un pwrpas: darparu lle diogel i blentyn.

Does dim dau deulu maeth yr un fath. Gall pobl o bob cefndir ddod yn ofalwyr maeth a chynnig amgylchedd diogel a sefydlog i blentyn. Rhywle y gall y plentyn ei alw’n gartref.

gofal maeth tymor byr

Family reading information sign at the top of Great Orme, Llandudno

Mae gofal maeth tymor byr yn darparu cartref dros dro i blentyn nes bydd yn gallu dychwelyd i gartref y teulu, neu ble bynnag sydd orau iddo ef/hi nesaf. Mae’r math hwn o ofal maeth yn gallu bod yn unrhyw beth o ddiwrnod i flwyddyn, a phopeth yn y canol.

Family playing a game while sitting in their garden

Byddwch yno tra byddwn ni’n gweithio i sicrhau gofal maeth tymor hir i berson ifanc, sy’n cael ei alw’n ‘sefydlogrwydd’. Byddwch yn cefnogi’r plentyn gyhyd ag y bydd arno eich angen chi ac yn ei helpu i symud ymlaen at ei deulu nesaf.

Gall arhosiad byr gael effaith enfawr ar blentyn. Mae pob cartref, ni waeth pa mor fyr-dymor, yn chwarae rhan yn y gwaith o greu dyfodol gwell.

gofal maeth tymor hir

Mum and two daughters looking at information plaque

Mae gofal maeth tymor hir yn darparu teulu newydd i blant sydd ddim yn gallu aros gartref.

Family walking down the hill from the cable cat on the Great Orme, Llandudno

Drwy baru’n ofalus, mae’r math hwn o ofal maeth yn lleoli’r plentyn iawn gyda’r gofalwr iawn nes bydd wedi tyfu’n oedolyn. Mae’n darparu sicrwydd a sefydlogrwydd tymor hir i blentyn – cartref am byth.

mathau arbenigol o ofal maeth

Gall fod angen mathau arbenigol o ofal maeth ar gyfer gofal maeth tymor byr a thymor hir. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Young girl talking to her parents while sat in their garden

seibiant byr

Mae seibiant byr yn galluogi plant i gael rhywfaint o amser oddi wrth eu teulu. Cyfle i ddod atyn nhw’u hunain. Mae seibiant byr yn cael ei alw’n ‘ofal cymorth’ weithiau, a gall ddigwydd yn ystod y dydd, dros nos neu ar benwythnosau.

Maen nhw’n cynnig profiadau a chyfleoedd gwahanol i blant o fewn rhwydwaith teulu estynedig newydd. Mae seibiant byr rheolaidd yn gallu cael effaith wirioneddol ar fywyd plentyn.

Family walking on the Great Orme, Llandudno

rhiant a phlentyn

Mae maethu rhiant a phlentyn ar gyfer rhieni sydd angen cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol nes byddan nhw’n gallu gofalu am eu plentyn ar eu pen eu hunain.

Bydd y math hwn o faethu arbenigol yn eich galluogi chi, fel gofalwr maeth, i ddefnyddio eich profiadau magu plant eich hun. Byddwch yn cefnogi rhiant agored i niwed a’i blentyn yn eich cartref wrth i’r rhiant fagu’r hyder a datblygu’r sgiliau angenrheidiol.

Dad and daughter sitting in their garden

gofal therapiwtig

Mae gofal therapiwtig ar gyfer plant a allai fod wedi profi esgeulustod neu drawma. Mae’r math hwn o leoliad yn sicrhau bod plant yn cael y gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen arnyn nhw. Fel gofalwr therapiwtig, byddwch yn cael eich hyfforddi a’ch cefnogi’n llawn i ofalu am y plant hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Family walking on the Great Orme, Llandudno

ffoaduriaid ifanc

Mae ffoaduriaid ifanc yn cyrraedd y DU ar eu pen eu hunain neu wedi'u gwahanu oddi wrth eu teulu yn ystod y daith - yn chwilio am ddiogelwch a dechrau newydd. Mae mwy na 100 o’r ffoaduriaid ifanc hyn yn cyrraedd Cymru bob blwyddyn.

Rydym angen teuluoedd yn Wrecsam a all gynnig cymorth, sefydlogrwydd ac arweiniad i ffoaduriaid ifanc wrth iddynt ailddarganfod eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.

Gyda'n cefnogaeth a'n harweiniad, gallwch chi helpu i arwain ffoadur ifanc tuag at ddyfodol cadarnhaol, gan roi'r cyfle iddynt ddysgu ac adennill eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.

I gael gwybod sut y gallwch gefnogi ffoadur ifanc, defnyddiwch y ffurflen gysylltu isod i ofyn am becyn gwybodaeth

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.