sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Mae ein rhwydwaith pwrpasol yng Nghonwy yn fwy cysylltiedig nag y byddech yn ei sylweddoli. Rydyn ni wrth law i ddarparu’r arbenigedd, y gefnogaeth arbenigol a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch, pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch.

Rydyn ni yma i chi bob amser.

Mum and two daughters at the Great Orme, Llandudno

gwell gyda’n gilydd

Mae Maethu Cymru Conwy wedi ymrwymo i gefnogi plant lleol yn ein gofal, eu teuluoedd maeth a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda ni.

Rydyn ni’n gallu cynnig cymaint o gefnogaeth oherwydd ein bod ni’n un o 22 o sefydliadau nid-er-elw ar draws Cymru. Rydyn ni’n rhannu ein harbenigedd ag Awdurdodau Lleol eraill i sicrhau bod ein gofalwyr yn gallu bod y gorau y gallan nhw fod.

Family of four standing in front of their house

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Rydyn ni’n darparu’r arweiniad a’r gefnogaeth leol sydd eu hangen arnoch ynghyd ag arbenigedd ein tîm cenedlaethol.

Mae’r ffaith ein bod ni’n canolbwyntio ar y gymuned leol yn golygu ein bod wedi ymrwymo i helpu plant i aros yng Nghonwy. Dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw golli cysylltiad â ffrindiau a theulu, rydyn ni am iddyn nhw gadw mewn cysylltiad. Dyna sy’n ein gwneud ni’n wahanol.

Rydyn ni bob amser yn rhoi pobl yn gyntaf. Fel sefydliad nid-er-elw, mae’r holl incwm rydyn ni’n ei dderbyn yn cael ei roi i’n gwasanaethau a’n timau i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’r plant yn ein gofal.

 

rhagor o wybodaeth am maethu cymru conwy:

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.