Blog

Taith Maethu Plentyn Geni

Cyn i chi ddechrau eich taith faethu mae’n bwysig meddwl am bawb sy’n byw yn eich cartref gyda chi, gan y bydd maethu’n effeithio arnyn nhw hefyd. Mae’n bwysig cynnwys plant biolegol sy’n byw gartref mewn unrhyw drafodaethau a phenderfyniadau. Mae Eleri yn rhannu profiad plentyn biolegol ar daith faethu. Dechreuodd teulu Eleri eu taith faethu 4 blynedd yn ôl. Mae Eleri wedi bod mor garedig â rhannu ei phrofiadau o’u hymholiad cychwynnol, asesiad maethu, panel maethu i’r diwrnod y mae plentyn yn symud ymlaen.

Gall maethu fod yn brofiad cyfoethog a gwerth chweil y bydd eich teulu cyfan yn elwa ohono. Mae plant sy’n mathu yn dysgu gwersi bywyd gwerthfawr fel rhannu, gofalu am eraill, empathi a mwy. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall cyfran o blant biolegol fynd ymlaen i ddod yn ofalwyr maeth eu hunain, mynd i broffesiynau gofalu ac mae llawer yn teimlo bod maethu wedi gwella eu sgiliau dealltwriaeth gymdeithasol.

Mae Eleri yn rhannu ei thaith faethu fel plentyn biolegol gofalwr maeth.

Dechrau ein Tain Maethu

Pan ddechreuodd fy rhieni feddwl am faethu, doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn beth oedd o, felly roeddwn i braidd yn ddryslyd. Ond pan esboniodd mam a dad pam mae plant yn cael eu maethu, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud popeth y gallwn i i’w helpu nhw i gael y gwaith yma. Daeth ein Gweithiwr Cymdeithasol draw i’n helpu ac roedd o’n ddyn neis iawn, dechreuodd ofyn cwestiynau i mi a fy chwaer a gwneud yn siŵr ein bod yn hapus gyda’r holl newidiadau.

Y cam nesaf yw’r Panel Maethu

Digwyddodd y panel yn gyflym iawn oherwydd cawsom wybod bod rhywun yn barod amdanom ni. Roeddem yn teimlo dan bwysau mawr ond hefyd yn gyffrous iawn. Digwyddodd hyn yn ystod y cyfnod clo felly dim ond y pethau hanfodol oedden ni’n gallu eu prynu, ond fe wnaethom ni ymdopi yn iawn!

Ar yr ail ddiwrnod ar ôl i’r babis gyrraedd, aeth popeth yn drech na fi ac mi es i’n emosiynol iawn o dan yr holl bwysau. Ondesboniodd mam wrthyf y byddai unrhyw fabi yn teimlo’n anniddig ar y dechrau, ac y byddent yn hapus ac yn gartrefol cyn bo hir.

Amswer i ddweud ‘Hwyl Fawr’

Roedd yn braf gweld y babis yn tyfu ac yn dysgu pethau newydd, ond roeddem yn gwybod y byddai’n rhaid iddyn nhw adael rhyw ddydd. Roedd hwnnw’n ddiwrnod hapus iawn, ond trist ar yr un pryd. Roedd yn braf gweld y babis yn mynd i rywle yr oeddent yn perthyn, ond roeddwn hefyd yn drist iawn o golli rhywun yr oeddwn i wedi treulio cymaint o amser gyda nhw.

“Mae maethu wedi dysgu llawer o bethau i mi”

Mae maethu wedi dysgu llawer i mi, fel sut i newid clwt, sut i fwydo babi a sut i gael babi i gysgu. A dim ond rhai o’r pethau yw’r rheiny. Mae hefyd wedi gwneud i mi edrych ar y byd mewn ffordd wahanol rŵan.  Efallai eich bod yn adnabod rhywun sy’n mynd trwy gyfnod anodd adref, ond heb sôn wrthych chi. Felly mae’n bwysig holi’ch ffrindiau sut maen nhw’n teimlo ambell waith.

Mae hefyd wedi gwneud i mi sylweddoli na ddylwn i byth gymryd unrhyw beth yn ganiataol, ac y dylwn i fod yn ddiolchgar am bopeth sydd gen i. Mae maethu yn brofiad gwych ac rydw i’n hapus iawn fy mod yn dal yn ifanc ac yn dal i ddysgu pethau trwy gydol y profiad maethu. Yn bendant mae pethau’n gallu bod yn anodd ambell waith wrth faethu, ond mae rhywun ar gael i chi siarad gyda nhw bob amser. Rydw i’n gobeithio’n fawr bod fy siwrnai faethu i wedi’ch helpu chi mewn rhyw ffordd.

I wylio fideo Eleri’s yn llawn ewch i’n tuadalen Facebook https://www.facebook.com/maethucymruconwy/videos.

cysylltwch

cysylltwch heddiw

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Resize Font
Contrast mode