Blog

10 Reswm i Faethu Plentyn yn ei Arddegau

Mae Maethu Cymru Conwy yn cwmpasu 10 rheswm i faethu person ifanc yn ei arddegau. Mae maethu plentyn o unrhyw oed yn benderfyniad sy’n dod â llawer iawn o foddhad ond llawer iawn o heriau hefyd. Beth bynnag fo oedran y plentyn, mae cymryd y cam cyntaf ar y siwrnai faethu yn rhywbeth y dylid ei ystyried yn fanwl. Ac mae hyn yn wir hefyd wrth wneud y penderfyniad i fod yn ofalwr maeth i blentyn yn ei arddegau. Mae llawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn gysylltiedig â’r ddau, ond mae’r boddhad yn gorbwyso’r heriau bob tro – ac mae hynny’n wir i’r plant yn eu harddegau a’r gofalwyr maeth fel ei gilydd.

Adult with teenage boy in kitchen making food together
Rydych chi’n gallu cefnogi pobl ifanc yn eu harddegau gyda nodau yn y dyfodol, fel coginio eu hoff bryd o fwyd.

camsyniadau am blant yn eu harddegau

Rydym yn clywed llawer o gamsyniadau am faethu plant yn eu harddegau. Mae rhai pobl yn teimlo nad yw’r sgiliau neu’r profiad ganddyn nhw i ofalu am blant yn eu harddegau. Mae un o’n Maethu Cymru Conwy gofalwyr maeth wedi clywed y sylw “fedrwch chi ddim gwneud gwahaniaeth i’w bywydau nhw achos maen nhw’n rhy hen”.

Rydw i’n anghytuno’n gryf â hyn. Rydym ni’n gofalu am blentyn 15 oed ac mae’r trawsnewid yr ydym wedi’i weld yn y flwyddyn gyntaf yn fwy nag unrhyw drawsnewid yr ydym wedi’i weld mewn unrhyw unigolyn. Nid yn unig o ran maethu, ond yn unrhyw un yr ydym erioed wedi’i adnabod

Gofalwr Maeth gyda Maethu Cymru Conwy

Maethu Cymru Conwy Gweithiwr Cymdeithasol Asesu yn clywed sylwadau fel “mae plant yn eu harddegau yn creu helynt ac yn dangos ymddygiad heriol”. Eu hymateb nhw i hyn yw:

Ni allwn osod yr un label ar bob plentyn. Gall rhai plant yn eu harddegau ddefnyddio ymddygiad i guddio eu teimladau o boen ac ofn. Ond gyda’r amgylchedd cywir, meithriniad, amynedd a disgwyliadau realistig; mae llawer o’n pobl ifanc yn mynd ymlaen i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Nid yw’n broses hawdd ac ni fydd y canlyniadau yn cael eu cyflawni dros nos. Ond gall cefnogaeth gan eich Tîm Maethu Cymru lleol wneud gwahaniaeth

Gweithiwr Cymdeithasol Maethu Cymru Conwy

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi wneud gwahaniaeth i berson ifan lleol yn ei arddegau, edrwychwch ar, Mathau o Faethu | Maethu Cymru Conwy i weld pa un allai fod fwyaf addas i chi a’ch teulu.

Nid yw bob amser yn hawdd croesawu plant yn eu harddegau i’ch cartref. Fel y soniwyd, mae llawer o bobl yn gyndyn o faethu plant yn eu harddegau gan eu bod yn meddwl y bydd yn rhy anodd. Mae angen yr un peth ar blant yn eu harddegau â phlant eraill – sef lle i deimlo fel pe baent yn perthyn.

dyma 10 reswm i faethu plentyn yn ei arddegau:

  1. Rydych yn ofalgar: waeth pa mor hir y byddant yn aros gyda chi, ymhen amser byddwch yn cael effaith gadarnhaol arnyn nhw.
  2. Cefnogaeth: gallwch eu cefnogi gyda’u nodau yn y dyfodol. Fel mynd i’r ysgol, mynychu coleg, byw’n annibynnol neu hyd yn oed dysgu sut i goginio eu hoff bryd bwyd.
  3. Gallwch ddangos iddyn nhw beth yw byw mewn cartref diogel a sefydlog.
  4. Gallwch ddysgu iddyn nhw sut i fod yn gryf a sut i ymdopi â sefyllfaoedd sy’n codi ofn arnyn nhw.
  5. Ymddiriedaeth: efallai mai chi fydd yr unig berson y bydd y plentyn yn wirioneddol ymddiried ynddo.
  6. Byddwch yn gallu gwneud yn siŵr nad ydynt yn gorfod ymdopi â phenderfyniadau mawr yn eu bywydau ar eu pen eu hunain.
  7. Byddwch yn rhan o dîm lleol sydd i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r gorau i’r person ifanc.
  8. Efallai mai chi fydd eu harhosiad olaf cyn iddyn nhw fentro allan i’r byd mawr a byw’n annibynnol.
  9. Efallai y gallwch chi ddysgu iddyn nhw sut i feithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol.
  10. Derbyn: Gallwch ddangos iddyn nhw y bydd rhywun yn eu cefnogi a’u hannog i fod yr unigolion yr ydyn nhw.

Mae pobl ifanc tîm Maethu Cymru Conwy yn chwilio am ofalwyr maeth sy’n gallu eu cefnogi. Gan roi hyder iddyn nhw feithrin sgiliau bywyd yn barod ar gyfer tyfu’n oedolion. Os allech chi ddarparu sicrwydd, diogelwch a sefydlogrwydd i berson ifanc, Cysylltu â ni | Maethu Cymru Conwy.

cysylltwch

cysylltwch heddiw

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Resize Font
Contrast mode