Blog

Mae bod yn rhan o deulu maeth: stori Corina

Mae Corinna’n ferch i’n gofalwyr maeth ymroddedig, Lynne a Steve o Gonwy, sydd wedi ennill gwobr rhagoriaeth mewn maethu yn ddiweddar am eu cyfraniadau eithriadol i ofal maeth. 

Wrth i’r teulu ddathlu eu cyflawniad arbennig, rydym ninnau hefyd newydd ddathlu i godi ymwybyddiaeth am gyfraniad arbennig plant gofalwyr maeth at aelwydydd sy’n maethu. 

Mae Corinna yn rhannu ei phrofiadau ei hun fel aelod o deulu sy’n maethu a sut mae hi’n helpu ei rhieni i faethu plant a phobl ifanc yn eu harddegau. 

Sut oeddet ti’n teimlo pan wnaeth dy rieni ddechrau maethu?

Rwy’n cofio teimlo’n falch iawn o’m rhieni am wneud y penderfyniad i fod yn ofalwyr maeth, am agor eu drysau i eraill a oedd yn chwilio am gartref teuluol cynnes a gofalgar. Er fy mod yn oedolyn ar y pryd, roeddwn i hefyd yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r siwrnai newydd hon, ond roedd elfen o ansicrwydd ynghlwm â hyn. Roedd fy rhieni bob amser wedi ein cynnwys ni i gyd yn eu penderfyniadau am fod yn ofalwyr maeth.

Sonia rywfaint am beth mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu’n ei olygu?

Mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu yn rhywbeth arbennig iawn. Mae maethu’n llawer mwy na swydd. Mae fy rhieni’n maethu gan eu bod yn bobl ddiymhongar, gofalgar ac empathig, sy’n angerddol am ddarparu cariad a chefnogaeth i bobl ifanc mewn angen. Rwy’n teimlo’n hynod o ffodus i’w cael nhw fel rhieni, ac o’n teulu sydd bellach wedi ehangu. Mae maethu yn amlwg yn gallu bod yn heriol o bryd i’w gilydd, ond rydych yn dysgu gymaint am fywyd a sut i oresgyn sefyllfaoedd anodd fel teulu. Mae hefyd yn gwneud i chi werthfawrogi eich teulu a’ch magwraeth.

Sut wnes di helpu dy rieni gyda maethu?

Rwyf bob amser wedi ceisio ymgymryd â’r rôl chwaer fawr sydd ei hangen ar y bobl ifanc yn ein gofal. Rwy’n eu helpu i setlo, rwy’n gwrando arnyn nhw, ac yn cael sgyrsiau anodd gyda nhw o bryd i’w gilydd. Rwy’n teimlo mai’r adegau bychain, fel gwrando arnyn nhw, yw’r adegau mwyaf pwerus.

Sut wyt ti’n croesawu plentyn newydd i’ch cartref?

Mae’n gallu bod yn eithaf llethol i bawb pan fydd unigolyn ifanc newydd yn cyrraedd. Mae’n bwysig bod yn ofalgar, clên a chroesawgar i’w helpu i deimlo’n gyffyrddus. Mae’n rhaid ystyried sut maen nhw’n teimlo wrth iddynt gamu i mewn i dŷ rhywun dieithr am y tro cyntaf. Rhowch eich hunan yn eu hesgidiau nhw - gallaf ond dychmygu pa mor anodd yw hi iddyn nhw. I’w helpu i setlo, rwy’n cynnig eu hoff ddiodydd, byrbrydau, ffilmiau iddynt - beth bynnag sydd ei angen i wneud iddynt deimlo’n gartrefol. Yn aml iawn, mae arnynt angen bod ar eu pen eu hunan am ychydig, ac mae’n bwysig gadael iddyn nhw gael hynny.

Sut wyt ti’n teimlo pan mae plant maeth yn symud ymlaen?

Gyda phob unigolyn ifanc yr ydym wedi gofalu amdanynt, rwyf wedi teimlo mor falch ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu’r gefnogaeth orau bosibl iddynt. Gobeithiaf ein bod wedi eu helpu i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu bywydau. Rwyf bob amser yn teimlo’n drist yn eu gweld nhw’n gadael, yn arbennig pan mae’r ymlyniad mor gryf. Ond rydym wedi cadw mewn cysylltiad gyda’r mwyafrif ohonynt ac maent yn parhau i fod yn rhan bwysig o’n teulu, sy’n rhywbeth arbennig iawn.

Fel oedolyn gyda dy yrfa dy hunan, a oes unrhyw sgiliau trosglwyddadwy rwyt wedi’u datblygu drwy fod ynghlwm â maethu?

Mae bod yn rhan o deulu maeth wedi dysgu nifer o sgiliau bywyd hanfodol i mi, megis empathi ac amynedd, gwrando a chyfathrebu. Mae maethu’n ymwneud â gwaith tîm ac ar ôl gweld y ffordd yr ydym wedi cefnogi ein gilydd fel teulu, byddaf yn bendant yn ystyried maethu yn y dyfodol.

cysylltwch

cysylltwch heddiw

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Resize Font
Contrast mode