Blog

Maethu fel teulu: sut i faethu'n llwyddiannus gyda'ch plant eich hun

Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad y byddwch yn ei wneud fel teulu.

Mae’n rhaid i bawb fod yn hapus.

Pan fyddwch chi’n maethu, bydd eich plant yn maethu hefyd. Byddan nhw’n chwarae rôl allweddol yn y cartref maethu. Mae'n golygu ehangu eich teulu ac ychwanegu mwy o bobl i garu a gofalu amdanynt.

Dylid cynnwys eich plant ar bob cam o’r broses faethu, gan gynnwys trafod oedran y plant y byddwch yn eu maethu. Yn aml, mae maethu yn gweithio orau pan nad yw'r plant maeth yr un oed â'ch plant chi.

Mae'r rhan fwyaf o ofalwyr maeth wedi'u cymeradwyo ar gyfer plant 0-18 oed ond yn dewis ystod oedran penodol. Yn Maethu Cymru, rydym yn gweithio’n agos gyda chi i gytuno ar yr oedrannau fwyaf addas ar gyfer amgylchiadau eich teulu, er mwyn paru’r plentyn cywir â’r teulu maeth cywir.

Mae Marie, ynghyd â’i gŵr Mark a’u dwy ferch Eleri a Catrin, wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol Maethu Cymru Conwy ers 2019. Mae’r teulu wedi dewis maethu plant iau am y tro i gyd-fynd â deinameg y cartref ac oedran eu plant eu hunain, sydd bellach yn 15 a 13 oed.

Penderfyniad fel teulu, a’r amser yn teimlo'n iawn i ni i gyd

“Mae maethu yn rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed, ers y galla i gofio,” meddai Marie.

“Fe wnaethon ni siarad amdano am flynyddoedd, hyd yn oed cyn i ni gael ein plant ein hunain. Roeddwn i'n gwarchod plant ar y pryd felly fe wnaethon ni ei adael am y tro. Flynyddoedd yn ddiweddarach, ac ar ôl cael dwy ferch ein hunain, fe benderfynon ni ail-edrych ar y syniad o faethu, gan gynnwys ein plant yn yr holl drafodaethau a phenderfyniadau o’r cychwyn cyntaf.”

Roedd ein merched yn 12 a 10 ar y pryd ac roedd y plant roeddwn i’n eu gwarchod i gyd ar fin dechrau’r ysgol, felly roedden ni’n teimlo bod yr amser yn iawn - i ni gyd.”

Egluro maethu i’ch plant eich hun

Daw plant i ofal am lawer o wahanol resymau. Bydd esbonio yn y ffordd orau sy'n briodol i'w hoedran pam bod angen gofalwyr maeth yn helpu'ch plant i ddeall pam eich bod chi am faethu. Gallwch fod yn fwy agored gyda phlant hŷn wrth egluro sut mae'r system gofal maeth yn gweithio a'r angen am fwy o deuluoedd maeth.

“Rydyn ni bob amser wedi bod yn agored ac yn onest gyda’n merched am faethu,” meddai Marie.

 “Rydym wedi egluro’r gwahanol resymau a sefyllfaoedd pam y gallai fod angen gofal maeth ar blant. Ond dydyn nhw erioed wedi gwybod manylion a chefndir y plant rydyn ni wedi'u maethu. Does dim angen iddyn nhw wybod hynny. Y cyfan maen nhw'n ei wybod yw bod eu teuluoedd biolegol yn dal i'w caru a'n bod ni'n eu helpu nhw nes y gallan nhw fod yn ôl gyda'i gilydd eto."

Diwrnodau cyntaf maethu

Gall croesawu eich plentyn maeth cyntaf i'ch cartref fod yn gyffrous ac yn frawychus. Mae'r ychydig wythnosau cyntaf fel teulu maeth yn addasiad mawr i'r teulu cyfan. Yn aml iawn, bydd babanod a phlant ifanc yn arbennig yn cyrraedd ar fyr rybudd, a all fod yn llethol, fel profiad cyntaf Marie.

“Dechreuodd ein taith faethu fel tipyn o gorwynt. Dwi'n cofio mynd i'r panel ar ddydd Mawrth ac o fewn deuddydd, cyrhaeddodd dau fabi o dan 2 oed ein cartref!

Roedd ein merched yn gyffrous iawn am faethu. Fel gwarchodwr plant, dydyn nhw erioed yn cofio’r tŷ heb fabanod a phlant ifanc yma. Roedd hyn yn ffactor arall wrth ddewis maethu plant iau.

Ond roedd y cyffro braidd yn ormod i fy merch hynaf ar y dechrau. Roedd gennym ni fabis yn y tŷ a bydden nhw’n crio. Dydyn nhw ddim bob amser yn setlo. Dydyn nhw ddim yn ymateb i gael eu dal a’u cofleidio bob amser, ac roedd hi’n gweld hynny’n anodd, yn enwedig pan nad oeddent yn setlo pan oedd hi’n eu dal.

Dywedais wrthi am gymryd ychydig o amser a gadael llonydd i'r babus am ychydig. Dwi’n meddwl bod yr aros ac wedyn y cyffro ar ôl iddyn nhw gyrraedd, yna'r realiti eu bod yma, yn llawer i'w gymryd i mewn i ddechrau.

Ond ar ôl y teimladau cychwynnol hynny, setlodd popeth wedyn.

Mae’r ychydig wythnosau cyntaf hynny’n ffrwydrad o alwadau ffôn, cyfarfodydd ac apwyntiadau, sy’n llethol. Ond buan y daethom o hyd i'n traed, ein trefn ein hunain. ‘Dych chi’n stopio cwestiynu eich hun ac yn bwrw ati!”

Sicrhau amser gwerthfawr gyda’ch plant eich hun

Gall maethu babanod a phlant iau yn arbennig gymryd llawer o'ch amser. Bydd angen lefel ychwanegol o ofal ar rai oherwydd anghenion iechyd heb eu diwallu. Mae’n bwysig felly eich bod yn parhau i neilltuo amser i’ch plant eich hun. Sicrhewch nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu gadael allan a’u bod yn dal i deimlo'n arbennig.

“Rydyn ni bob amser wedi sicrhau nad yw ein merched erioed wedi gorfod gwneud unrhyw aberthau mawr oherwydd ein bod ni'n maethu - mae'n debyg mai'r aberth mwyaf maen nhw wedi gorfod ei wneud yw gorfod rhannu fy amser, ond rydyn ni'n gweithio o gwmpas hynny.

Mae babanod a phlant iau fel arfer yn eu gwelyau erbyn 7. Mae hyn wedyn yn rhoi rhywfaint o amser un-i-un gyda'r nos i ni dreulio gyda'n merched, sy'n rheswm arall pam mae maethu plant iau yn gweithio'n well i ni fel teulu.

Mae hefyd yn haws i fabanod a phlant iau ffitio o amgylch hobïau a diddordebau ein plant ein hunain. Dydw i erioed wedi peidio â mynd i wylio fy merched yn gwneud eu gweithgareddau chwaraeon ar y penwythnosau oherwydd ein bod ni’n maethu – dwi’n mynd â’r rhai bach gyda mi yn y pram neu’r bygi.”

Mae yna lawer o adegau wrth faethu hefyd lle gall ddod â chi'n agosach at eich gilydd fel teulu, fel y mae Marie yn ei rannu.

“Pan oedd gennym ni’r ddau ifanc, un o’r pethau cyntaf y bydden ni’n ei wneud pan fyddai’r merched yn dod adref o’r ysgol fyddai eistedd gyda’n gilydd yn y lolfa yn sgwrsio am y diwrnod wrth i ni roi potel i’r rhai bach.”

Pan fydd plant maeth yn symud ymlaen

Mae Marie a’r teulu yn maethu byrdymor, a all amrywio o un noson yn unig i ychydig wythnosau, i sawl mis, neu hyd at ddwy flynedd. Nid yw ffarwelio â phlentyn maeth byth yn hawdd, waeth pa mor hir y mae wedi bod yn eich bywydau, fel yr eglura Marie.

“Mae’n torri fy nghalon pan maen nhw’n gadael. Ar ôl rhoi gymaint o amser i ofalu am y plant. Ar ôl eu caru o’r diwrnod cyntaf.

Bu ein plant maeth cyntaf, y ddau ifanc, yn byw gyda ni am 11 mis cyn iddynt fynd yn ôl at eu teulu biolegol. Er ei bod mor anodd eu gweld yn gadael, dyna oedd y canlyniad llwyddiannus yr oeddem wir yn ei ddymuno iddynt.

Rydyn ni wedi bod yn ffodus gan ein bod ni wedi gweld canlyniadau llwyddiannus i’n holl blant maeth - lle maen nhw i gyd wedi dychwelyd at eu teuluoedd biolegol. Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda phob un ohonyn nhw ac rydyn ni bob amser wedi cynnwys ein merched yn y berthynas.

Rydyn ni'n dal i weld y plant sydd wedi gadael ac yn parhau i helpu a chefnogi'r teuluoedd pan maen nhw ein hangen ni, sy'n hyfryd i ni i gyd, yn enwedig i'n merched. Mae’r teuluoedd wedi bod mor ddiolchgar am bopeth rydyn ni wedi’i wneud a dw i mor falch ein bod ni wedi ffurfio perthynas mor dda gyda nhw ac yn teimlo’n ffodus iawn eu bod nhw’n parhau i fod yn ein bywydau.

I mi, mae maethu yn ymwneud ag aduno teuluoedd a byddaf bob amser yn gwneud popeth y gallaf i wneud i hynny ddigwydd.

Mae merch fach a ddaeth i fyw gyda ni yn ddiweddar yn rhan enfawr o’n bywydau yn barod. Rydych chi'n meithrin ymlyniad mor gryf yn ystod y dyddiau cyntaf hynny felly pan maen nhw’n gadael, mae bob amser yn anodd."

Mae plant maeth yn gadael am resymau da

Mae'n bwysig paratoi eich plant eich hun ar gyfer y ffaith y bydd eu brodyr a chwiorydd maeth yn symud ymlaen rywbryd, a'u bod yn deall y byddan nhw’n gadael am resymau da, cadarnhaol.

“Mae ein merched bob amser wedi deall a derbyn y bydd y plant sy’n dod i fyw gyda ni yn mynd yn ôl at eu teuluoedd lle bo modd yn y pen draw, a dyna lle dylen nhw fod. Maen nhw'n deall nad ni sy’n “berchen” arnyn nhw a'n bod ni'n eu helpu nhw a'u teuluoedd i fod gyda'i gilydd eto.

Dwi’n meddwl ei bod yn llawer haws i’n merched ddelio â’r plant maeth yn gadael nag ydyw i ni fel oedolion. Maen nhw'n gweld eu heisiau wrth gwrs, ond mae bywyd yn mynd yn ôl i normal iddyn nhw'n weddol gyflym wrth iddyn nhw fynd i'r ysgol a pharhau â'u bywydau prysur. Mae plant yn wydn ac maen nhw'n ymdopi ond dw i'n teimlo ar goll yn llwyr pan maen nhw'n gadael i ddechrau.

Ond fe gewch chi alwad ffôn yn fuan wedyn i gymryd plentyn arall, felly mae eich meddwl yn cael ei dynnu’n eithaf cyflym!”

Cymryd amser i fyfyrio a thrafod teimladau

“Rydyn ni bob amser yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud rhywbeth arbennig fel teulu bob tro bydd plentyn maeth yn symud ymlaen. Fe awn ni am bryd o fwyd neis neu am benwythnos i ffwrdd lle cawn dreulio amser yn siarad am y plant maeth ac yn myfyrio ar eu hamser gyda ni.

Rydyn ni hefyd yn cymryd yr amser hwn i drafod yn agored sut rydyn ni'n teimlo am faethu a bob amser yn gofyn i'r merched a ydyn nhw am barhau.

Mae’n rhaid iddo deimlo’n iawn i bawb.”

Effaith maethu ar eich teulu

Gall maethu gael effaith gadarnhaol ar bawb yn y cartref. Mae plant sy'n cymryd rhan yn y daith faethu yn datblygu sgiliau gofalu ac empathi cryf, ac yn rhoi mewnwelediadau bywyd gwerthfawr iddynt. Byddan nhw hefyd yn elwa o gyfeillgarwch gydol oes gyda llawer o'r plant y maent wedi gofalu amdanynt a chyda phlant gofalwyr maeth lleol eraill.

“Mae maethu yn cael effaith wirioneddol,” meddai Marie.

“Mae wedi gwneud byd o les i fy mhlant. Mae wedi llunio eu personoliaethau. Maen nhw wedi tyfu cymaint, wedi aberthu ac wedi ennill sgiliau bywyd gwerthfawr.

Sgiliau ymarferol fel sut i newid clwt, sut i fwydo a dal babi. Byddan nhw'n helpu o gwmpas y tŷ, yn clirio'r teganau ar ddiwedd y dydd ac yn chwarae gyda'r rhai bach tra bydda i’n gwneud te.

Ond mae'n llawer mwy na hynny. Mae wedi effeithio ar y ffordd y maen nhw’n teimlo am blant eraill a’u hymwybyddiaeth o pam na ddylech chi farnu unrhyw un. Maen nhw wedi dod i ddeall y stigma o amgylch plant mewn gofal maeth a sut mae angen mynd i’r afael â hyn mewn cymdeithas.

Mae fy merch hynaf wedi gwneud rhai o’i haseiniadau yn yr ysgol yn ymwneud â maethu ac yn ddiweddar gwnaeth ei chyflwyniad llafar TGAU Saesneg ar sut y dylid addysgu maethu mewn ysgolion - y cyfan yn defnyddio ei menter ei hun.

Mae fy merched wrth eu bodd yn maethu ac maen nhw’n mwynhau cyfarfod â phlant gofalwyr maeth lleol eraill, sy’n bwysig iddyn nhw.”

Mae angen calon fawr arnoch chi

Daw gofalwyr maeth o bob math o gefndiroedd, ffyrdd o fyw ac unedau teuluol gwahanol. Does dim rhaid i chi gael plant eich hun i faethu. Yr hyn sydd bwysicaf yw'r sgiliau, yr olwg ar fywyd a'r profiad sydd gennych.

Felly, beth mae Marie yn ei ystyried yw'r rhinweddau personol mwyaf hanfodol sy'n gwneud teulu maeth gwych?

“Does dim angen i chi fod yn berson neu deulu arbennig i faethu.

Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw amser, lle yn eich cartref a chalon fawr, FAWR.

Bydd pobl yn aml yn dweud pethau wrtha i fel ‘mae be wyt ti’n ei wneud yn anhygoel’ neu ‘mae’r plant mor ffodus i dy gael di’.

Ond nid felly dw i’n gweld pethau o gwbl.

Dwi’n teimlo mai ni yw’r rhai ffodus i gael y plant yma yn ein bywydau.”

Allech chi faethu fel Marie a'i theulu?

Os ydych yn byw yng Nghonwy cysylltwch â Maethu Cymru Conwy a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu benderfynu os yw maethu yn iawn i chi.

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.

cysylltwch

cysylltwch heddiw

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Resize Font
Contrast mode