Blog

Maethu pobl ifanc yn eu harddegau - stori Gerry a Miriam

Mae angen teuluoedd maeth ar frys yng Nghymru i ofalu am blant o bob oed mae angen cynyddol am gartrefi maeth i bobl ifanc yn eu harddegau.

Ym mis Mawrth 2022, roedd 40% o’r 7080 o blant a oedd yng ngofal yr awdurdod lleol yng Nghymru rhwng 10 a 15 oed, gyda nifer ychydig yn uwch o fechgyn na merched (ffynhonnell: ( gov.wales))  .

Mae’r camsyniadau lu sy’n gysylltiedig â maethu pobl ifanc yn eu harddegau, er enghraifft eu bod yn ‘creu helbul’ yn aml yn rhwystro pobl rhag bod eisiau eu maethu. Ond fel arfer mae’r bobl ifanc hyn mewn gofal am yr un rhesymau â phlant iau ac yn aml iawn maent yn haws i ofalu amdanynt na phlant ifanc gan eu bod yn fwy annibynnol.

Mae Gerry a Miriam yn ofalwyr maeth i’w hawdurdod lleol yng Nghonwy, ac maen nhw wedi agor eu calonnau a’u cartrefi i bobl ifanc lleol a oedd angen cariad a chefnogaeth diamod, gan sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posib i’w bywydau fel oedolion.

Wrth iddyn nhw baratoi i ymddeol y flwyddyn nesaf, dyma nhw’n edrych yn ôl ac yn rhannu rhai o’u myfyrdodau ynghylch eu 18 mlynedd o faethu gyda Maethu Cymru Conwy.

Y rheswm pam ‘da ni’n maethu pobl ifanc yn eu harddegau

Mae gofalu am bobl eraill yn rhywbeth y mae Miriam yn gyfarwydd iawn ag o gan ei bod wedi’i geni a’i magu mewn cartref gofal a oedd yn cael ei redeg gan ei theulu ac wedi bod yn helpu yno ers pan oedd hi’n ifanc iawn. Yn nes ymlaen dechreuodd Miriam redeg y busnes gyda’i mam ac yn ddiweddar daeth yn llwyr gyfrifol am y cartref sydd erbyn hyn yn darparu llety brys, yn aml iawn i bobl ifanc sy’n gadael gofal.

Mae Gerry a Miriam wedi bod yn bâr parod iawn eu cymwynas erioed, ac wedi agor eu drws ar sawl achlysur i gyfeillion a oedd yn mynd drwy gyfnodau anodd. Roedd maethu pobl ifanc yn amlwg yn rhywbeth naturiol iddyn nhw ei wneud.

”Da ni gyd wedi bod yno’n hunain” meddai Miriam. “Dwi’n cofio sut o’ ni’n ymddwyn ac yn teimlo pan o’ ni yn f’arddegau.

Mae pobl ifanc angen teimlo bod rhywun ar eu hochor nhw, rhywun i weld eu potensial ac i’w tywys nhw ar y llwybr at fod yn oedolyn.”

Mae pobl ifanc mewn gofal maeth angen teimlo’n ddiogel ac yn saff

Pa un a ydych wedi cael profiad o ofalu am eich plant eich hun yn eu harddegau neu’n cofio eich profiad eich hun o fod yr oed hwnnw, mae llawer o rieni a gofalwyr maeth yn ei chael yn anodd rheoli ymddygiad pobl ifanc yn ystod y blynyddoedd hyn. Mae ymddygiad heriol yn rhan annatod o dyfu i fyny ac o ddod yn fwy annibynnol, ond i lawer o bobl ifanc mewn gofal, maen nhw wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod.

”Mae gan lawer o’n ffrindiau blant yn eu harddegau a phan fyddwn yn sgwrsio am eu plant nhw a’r plant yn ein gofal ni, ‘da ni’n gweld bod eu hymddygiad a’u hanghenion yn eithaf tebyg” meddai Miriam.

”Mae’r rhan fwyaf o blant yn eu harddegau’n bigog yn y boreau, yn cicio’n erbyn y tresi, yn gwrthod gwisgo dim ond dillad wedi’u brandio ac yn sownd wrth eu ffonau symudol!

Ond fel pob plentyn arall, mae pobl ifanc mewn gofal maeth eisiau teimlo’n ddiogel ac yn saff. Maen nhw angen sefydlogrwydd. Maen nhw eisiau teimlo bod rhywun yn eu caru.

Rhowch ystafell wely neis iddyn nhw, eu lle eu hunain.

Treuliwch amser un-i-un efo nhw, mae hynny’n bwysig. Ewch i siopa efo nhw, gadewch iddyn nhw ddewis eu pethau eu hunain. Gadewch iddyn nhw wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Cofiwch am eu gorffennol bob amser. ’Da ni byth yn gweiddi ar ein plant maeth er enghraifft. Efallai eu bod nhw’n dod o fywyd lle’r oedd rhywun yn gweiddi arnyn nhw o hyd.”

”Da ni bob amser yn canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol” - Miriam a Gerry

Ychwanegodd Gerry: “Doedden ni byth yn difetha nhw a gwneud popeth drostyn nhw.

Da ni bob amser wedi dysgu sgiliau bywyd hanfodol iddyn nhw, gan roi rhywfaint o gyfrifoldeb iddyn nhw ac annog annibyniaeth yn y dyfodol. Pethau fel sut i olchi eu dillad eu hunain, smwddio a gwneud tasgau o gwmpas y tŷ, ffonio’r meddyg ar ôl iddyn nhw gael eu pen-blwydd yn 16 oed - pethau y bydd yn rhaid iddyn nhw eu gwneud yn y dyfodol er mwyn gallu ymdopi pan maen nhw’n oedolion.

Mae hyn i gyd er eu lles nhw eu hunain yn y pen-draw”.

Mae angen synnwyr digrifwch!

Mae’r gallu i feithrin ac i gynnal perthynas naturiol gyda phobl ifanc mewn gofal maeth yn rhan bwysig o fod yn ofalwr maeth. Ar ôl gofalu am dros 35 o bobl ifanc yn ystod eu 18 mlynedd fel gofalwyr maeth, beth ydi’r sgiliau a’r rhinweddau y mae Miriam a Gerry’n eu hystyried yn fwyaf hanfodol i lwyddo wrth faethu plant yn eu harddegau?

”Mae bod yn rhywun hawdd mynd atynt yn gwneud gwahaniaeth mawr i berthnasoedd gyda phobl ifanc a gall eich helpu chi i gyfathrebu efo nhw,” meddai Miriam.

“Byddwch yn barod i wrando a cheisiwch weld pethau o’u persbectif nhw. Rhaid i chi ennyn eu hyder, un dydd ar y tro. Rhaid i chi fod yn amyneddgar ac yn gydymdeimladol.”

Ychwanegodd Gerry: ”Yn sicr rhaid i chi fod â synnwyr digrifwch da efo plant yn eu harddegau, ac mae hiwmor yn gofyn am fod yn feddwl-agored.

Ceisiwch chwerthin a dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio hiwmor yn ystod yr adegau mwyaf anodd. Mae hynny’n bwysig iawn wrth ddelio â phlant yn eu harddegau.

Byddwch yn gadarn ac yn deg, a dewiswch eich brwydrau!

Dysgwch sut i ddod dros sefyllfaoedd anodd a symud ymlaen.

’Dwi wedi dysgu gwneud hyn drwy dreulio ychydig o amser i ffwrdd oddi wrth sefyllfaoedd anodd. Mi af i eistedd yn fy hamog yn yr ardd gefn am ryw 10 munud a chael ychydig o amser i mi fy hun i feddwl a rhoi pethau mewn persbectif. Mae hynny bob amser yn gweithio i mi!”

Mae’r pethau bach yn bwysig

Mae ‘na lawer o bethau arbennig am faethu ond yr achlysuron bach hynny mewn bywyd sydd wedi golygu’r mwyaf i Gerry a Miriam.

“Pethau fel cerdyn pen-blwydd neu gerdyn Sul y Tadau, gair bach o ddiolch mae ein plant maeth wedi’u hysgrifennu eu hunain mewn cerdyn,” meddai Gerry.

“Bydd y rheiny’n aros yn ein calonnau am byth a ‘da ni wedi cadw pob un ohonyn nhw”.

 

”Gan nad oes gen i blant fy hun mae cael cerdyn Sul y Mamau gyda chusan fach y tu mewn yn rhywbeth i’w drysori” - Miriam

Creu atgofion a chwerthin!

”Da ni hefyd yn trysori'r profiadau ‘da ni wedi’u rhannu efo’r bobl ifanc - mynd ar wyliau dramor a mynd â nhw i Lundain” meddai Gerry.

”Mynd â nhw i wersylla am y tro cyntaf, rhywbeth maen nhw i gyd yn hoff iawn ohono (cyn belled bod na wifi da ar y safle!). Mae tostio malws melys dros y tân yn ffefryn mawr - y pethau yma fyddan nhw’n eu cofio.

Creu atgofion melys a chael lot fawr o hwyl!”

Mae Miriam yn egluro sut y mae hyd yn oed y cerrig milltir bach bob dydd yn rhoi teimlad mawr o gyrhaeddiad iddyn nhw fel gofalwyr maeth.

”Mae cael mynd i’r ysgol mewn dillad glân yn rhywbeth mawr i rai ohonyn nhw.”

”Mae eu gweld nhw’n perfformio mewn cyngherddau ysgol, yn chwilio amdanon ni yn y gynulleidfa – mae pethau felly’n gwneud i ni deimlo mor falch.”

Mae ‘na gefnogaeth ar gael i ni pryd bynnag ‘da ni ei angen

Gyda Maethu Cymru, eich gwasanaeth maethu llywodraeth leol, bydd yna bobl i’ch chefnogi a’ch annog chi ar bob cam. Bydd gennych weithiwr cymdeithasol profiadol, proffesiynol wrth law i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan. Bydd gennych hefyd fynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi lle cewch ddod i adnabod gofalwyr maeth eraill.

“’Da ni wastad wedi teimlo’n hapus yn maethu gyda’n hawdurdod lleol yng Nghonwy,” meddai Miriam

”Mae gennym berthynas dda gyda’r tîm a bob amser yn teimlo ein bod yn cael ein cefnogi, ein parchu a’n gwerthfawrogi. Mae ein Gweithiwyr Cymdeithasol wedi bod yn wych.

Maen nhw’n ymddiried ynom ni ac yn rhoi rhyddid i ni fwrw ‘mlaen, ond maen nhw bob amser yno pan mae eu hangen arnom.

Er enghraifft, mae rheoli’r cyfryngau cymdeithasol bob amser yn heriol efo pobl ifanc, ond mae ein hawdurdod lleol wedi ein harwain a’n cefnogi ni efo hynny, sydd wedi bod o help mawr.

Mae bod â rhwydwaith o gymorth personol hefyd yn bwysig

Mae bod â’ch rhwydwaith cefnogaeth eich hun o deulu a ffrindiau hefyd yn bwysig i deuluoedd maeth pan fo angen cymorth emosiynol ac ymarferol, fel y mae Gerry’n egluro:

”Mae’n bwysig bod â’ch rhwydwaith eich hun o gymorth personol wrth faethu, nid dim ond i chi fel gofalwyr maeth ond hefyd i’r plant sy’n cael eu maethu,” meddai.

“Mae ein ffrindiau ni bob amser wedi derbyn ein plant maeth fel ein plant ni ein hunain ac wedi’u cynnwys bob amser ym mhopeth yr ydym yn ei wneud fel ffrindiau. ’Da ni bob amser yn mynd i wersylla efo’n gilydd

Dydyn nhw erioed wedi’u labelu nhw’n blant maeth.”

Erbyn hyn dwi’n nain faeth falch iawn!

Mae Miriam a Gerry rŵan yn teimlo mai dyma’r adeg iawn i ymddeol o faethu. Bydd Miriam yn dal i redeg y busnes llety brys gyda chymorth Gerry.

“Does gen i ddim syniad sut fyddai’n ymdopi â thŷ tawel,” meddai Miriam

“Petawn i’n cael fy ffordd fy hun mi fasa’ nhw i gyd yn dal i fyw yma efo ni, ond maen rhaid iddyn nhw ddod o hyd i’w ffordd eu hunain yn y byd a gwneud bywyd iddyn nhw eu hunain.

Mae’n anodd i bobl ifanc brynu eu tŷ eu hunain y dyddiau yma ond maen nhw’n gwybod ein bod ni’n dal yma iddyn nhw, pryd bynnag maen nhw ein hangen ni.

Maen nhw’n rhan o’n teulu estynedig ni. Maen nhw bob amser isio dod yn ôl am ginio Dydd Sul!.

Mae gweld ein plant maeth yn mynd ymlaen i greu eu teuluoedd eu hunain, mynd i’r coleg a chael swyddi ac ati mor arbennig.

Erbyn hyn dwi’n ‘nain faeth’ i ddau blentyn ifanc un o’n plant maeth ni, sydd yn gymaint o anrhydedd. Braint oedd bod yn bresennol yng ngenedigaeth y ddau ohonyn nhw, a oedd yn hollol anhygoel ac yn rhywbeth doeddwn erioed yn feddwl y baswn yn ei brofi.

Pan maen nhw’n gadael mae’n gymysgedd o dristwch a hapusrwydd ond y peth pwysicaf yw gwybod ein bod ni wedi rhoi sylfaen dda iddyn nhw. Mae’n rhaid i chi roi eich teimladau o’r neilltu.”

Nid bywyd fel ffilm Mary Poppins mohono o bell ffordd ond faswn i ddim yn newid unrhyw beth!

”Dydi maethu plant yn eu harddegau ddim yn hawdd o bell ffordd,” meddai Gerry.

”Mae’n heriol ac mae’n rhaid i chi fod â disgwyliadau realistig.

Weithiau da’ chi ddim yn llwyddo i greu perthynas dda efo plentyn maeth a dydi hynny ddim yn beth braf.

Ond er gwaethaf yr heriau, fasa’ ni ddim yn newid unrhyw beth a ‘da ni’n difaru dim.

Mae maethu’n rhoi cymaint yn ôl i chi, mae’r plant ‘da ni wedi’u maethu dros blynyddoedd wedi dod â chymaint o hwyl a hapusrwydd i ni.”

Allech chi faethu fel Gerry a Miriam?

Os ydych yn byw yng Nghonwy cysylltwch â Maethu Cymru Conwy a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu benderfynu os yw maethu yn iawn i chi.

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.

cysylltwch

cysylltwch heddiw

View from Great Orme, Llandudno

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Resize Font
Contrast mode